Gwybodaeth a rennir gan chwythwyr chwiban a'r rhai sydd wedi rhoi gwybod am fethiant sefydliadau.
Mae'r Ymchwiliad yn dymuno clywed gan chwythwyr chwiban a'r sawl sydd â gwybodaeth am fethiannau sefydliadau.
Gall eu gwybodaeth a'u profiad gyfrannu at waith yr Ymchwiliad er mwyn llywio unrhyw argymhellion a wneir ganddo yn y dyfodol i helpu i ddiogelu plant rhag cam-drin rhywiol.
Mae'r Ymchwiliad yn awyddus i glywed gan unigolion sydd wedi (mewn perthynas â methiant sefydliadau i ddiogelu plant rhag cam-drin rhywiol):
Os byddwch chi'n dewis cynnig gwybodaeth i'r Ymchwiliad, bydd y canlynol yn digwydd:
Os yw'r wybodaeth rydych chi'n dymuno ei rhannu'n berthnasol i un o'n hymchwiliadau cyfredol, caiff ei hanfon at y tîm ymchwil perthnasol, a allai gysylltu â chi i'w thrafod.
Nid oes gan yr Ymchwiliad yr awdurdod i ymateb i bryderon presennol. Os ydych chi'n dymuno rhannu gwybodaeth am sefyllfa bresennol, gwnewch hynny drwy'ch canolfan diogelu plant amlasiantaethol.
Sylwer, os cawn ein hysbysu am achosion penodol o gam-drin plant, mae'n rhaid i ni atgyfeirio at yr Heddlu, ond byddwn ond yn cynnwys eich manylion cyswllt os cawn eich caniatâd.
Os byddwch chi'n dweud wrthym ni fod plentyn mewn perygl ar hyn o bryd, efallai y bydd yn rhaid i ni wneud atgyfeiriad diogelu brys, a bydd angen i ni gynnwys eich manylion cyswllt.
Nid yw'r Ymchwiliad yn gallu rhoi cyngor i unigolion am eu sefyllfa os ydynt yn dymuno chwythu'r chwiban. Fodd bynnag, mae cyngor ac arweiniad ar gael drwy'r elusen chwythu'r chwiban, Public Concern at Work.
I unrhyw un sy'n poeni y gallai weithredu'n groes i'r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol drwy gysylltu â'r Ymchwiliad, rydym ni wedi sicrhau amddiffyniad cyfreithiol ychwanegol.
Rhoddodd y Twrnai Cyffredinol ymrwymiad ar 15 Mehefin 2015 na fyddai unrhyw ddogfen na thystiolaeth a ddarperir i'r Ymchwiliad yn arwain at, nac yn cael ei defnyddio mewn, unrhyw erlyniad o dan y Ddeddf Cyfrinchau Swyddogol neu unrhyw erlyniad am feddiant anghyfreithlon o'r dystiolaeth dan sylw.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth rydych chi'n dymuno ei rhannu â'r Ymchwiliad ynghylch pryderon am sefydliad neu weithiwr proffesiynol, gallwch gysylltu yn y ffyrdd canlynol:
Nodwch ar yr holl ohebiaeth ‘Gwybodaeth gan chwythwr chwiban neu unigolyn sydd wedi riportio methiant sefydliadol’ (neu rywbeth tebyg) i gynorthwyo'r Ymchwiliad.
Os oes angen, gallwn hefyd drefnu i ddarparu cyfleuster uwchlwytho digidol diogel neu i gasglu gwybodaeth ysgrifenedig neu sain drwy negesydd diogel a gaiff ei olrhain.