Isod gallwch weld rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Os hoffech chi holi cwestiwn am yr Ymchwiliad neu os oes gennych chi wybodaeth i gefnogi ein hymchwiliadau, cysylltwch â ni:
Byddwn yn ceisio ymateb i bob galwad, e-bost a llythyr o fewn 15 niwrnod gwaith, fodd bynnag, gall gymryd rhagor o amser i ymateb mewn cyfnodau prysurach.
Os byddwch chi'n ysgrifennu atom drwy ddefnyddio'r cyfeiriad rhadbost, nid oes angen i chi gynnwys enw neu unrhyw wybodaeth arall. Yn syml iawn, ysgrifennwch y cyfeiriad Freepost fel y nodir yn y testun uchod.
Byddwn yn ceisio ymateb i bob galwad, e-bost a llythyr o fewn 15 niwrnod gwaith, fodd bynnag, gall gymryd mwy o amser i ymateb mewn cyfnodau prysurach. Sylwer na allwn dderbyn pecynnau sy'n pwyso mwy na 2kg yn ein blwch Swyddfa'r Post. Cysylltwch â ni yn y lle cyntaf os ydych chi'n dymuno anfon rhywbeth sy'n pwyso mwy na hyn.
Ar gyfer gohebiaeth ysgrifenedig arall nad yw'n berthnasol i gefnogi ein hymchwiliadau, gallwch hefyd ysgrifennu atom yn: Independent Inquiry into Child Sexual Abuse, PO Box 76107, Llundain, SE1P 6HJ
Nid ydym yn argymell eich bod yn datgelu profiadau o gam-drin plant trwy ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Os ydych chi'n dymuno rhannu eich profiadau â'r Ymchwiliad, ewch at dudalen Dioddefwyr a Goroeswyr ein gwefan lle byddwch yn canfod cyfarwyddyd ynghylch sut i wneud hynny.
Os oes gennych unrhyw bryderon y gallai plentyn fod mewn perygl o niwed ar hyn o bryd yna gallwch riportio hyn i'ch heddlu lleol neu i'r Awdurdod Lleol perthnasol.
Sylwch, os dewiswch rannu gwybodaeth sy'n cynnwys unrhyw honiadau o gam-drin plant neu wybodaeth sy'n awgrymu bod plentyn neu oedolyn mewn perygl o niwed trwy'r cyfryngau cymdeithasol, mae'n rhaid i ni rannu hyn gyda'r heddlu ac awdurdodau perthnasol eraill, a allai gynnwys gofal cymdeithasol.
Wrth ddarparu gwybodaeth sy'n cynnwys unrhyw honiad o gam-drin plant neu risg o niwed, rydych yn cydsynio i'r wybodaeth hon, a'ch enw a'ch manylion cyswllt, gael eu rhannu gyda'r heddlu ac awdurdodau perthnasol eraill.
Mae ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro Llun - Gwener rhwng 9am a 5pm ac adolygir sylwadau yn ddyddiol. Nid ydym yn caniatáu sylwadau neu gyflwyniadau tramgwyddus, sarhaus na difenwol. Gwaherddir sylwadau neu gyflwyniadau sy'n awgrymu neu'n annog gweithgareddau anghyfreithlon. Bydd unrhyw bostiadau nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau hyn yn cael eu dileu.