Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar yr Ymchwiliad i sicrhau bod cynnwys y wefan ar gael i'r gynulleidfa ehangaf posibl, gan gynnwys rhai gydag anableddau sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol.
Mae'r Ymchwiliad wedi bodloni'r ddyletswydd hon trwy gynllunio ac adeiladu ei wefan:
- i fodloni safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG)
- i arddangos yn gywir ar y fersiynau diweddaraf o borwyr a ddefnyddir yn eang
- i arddangos yn glir ar amrywiaeth o ddyfeisiau yn cynnwys ffonau a thabledi
- i ddarparu testun mewn Saesneg clir i ddefnyddio iaith farcio hyperdestun (HTML5) dilys a dalennau diwyg rhaeadrol (CSS 3)
- i gefnogi porwyr hŷn ble fo'n briodol i weithio gyda thechnolegau cynorthwyol fel darllenwyr sgrin
- i ddarparu dogfennau ar ffurf pdf
Cymorth pellach
Os oes yna wybodaeth na allwch gael mynediad ati, neu os ydych yn profi unrhyw anawsterau hygyrchedd eraill, gallwch gysylltu â'r Ymchwiliad.