Mae dioddefwyr a goroeswyr yn gwneud cyfraniad pwysig at waith yr Ymchwiliad drwy rannu eu profiadau.
Bydd pob profiad a rennir yn cyfrannu at ein canfyddiadau a'n hargymhellion.
Mae'r Prosiect Gwirionedd yn rhan o'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA), a sefydlwyd yn 2015 i ymchwilio i fudiadau a sefydliadau sydd wedi methu â diogelu plant rhag cam-drin rhywiol.
Mae'r Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr ar agor i bob dioddefwr a goroeswr camdriniaeth rywiol yn ystod plentyndod. Fe'i sefydlwyd i'w gwneud yn haws i ddioddefwyr a goroeswyr ymgysylltu â ni, holi cwestiynau a gwneud awgrymiadau o ran sut rydym yn gweithio.
Mae'r Panel Ymgynghorol Dioddefwyr a Goroeswyr (VSCP) yn darparu cyngor i'r Ymchwiliad. Mae holl aelodau'r Panel wedi treulio blynyddoedd lawer yn cefnogi goroeswyr camdriniaeth rywiol yn ystod plentyndod sydd bellach yn oedolion, gan helpu goroeswyr i godi eu llais. Maent yn sicrhau y caiff anghenion a safbwyntiau dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith sy'n cael ei wneud gan yr Ymchwiliad.
Mae'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth ym mis Ionawr 2019 i wneud dioddefwyr a goroeswyr yn ymwybodol y gallant siarad â'r Ymchwiliad drwy'r Prosiect Gwirionedd.
Mae'r Ymchwiliad yn dymuno clywed gan chwythwyr chwiban a'r sawl sydd â wybodaeth am fethiannau sefydliadau.