Mae'r Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr ar agor i bob dioddefwr a goroeswr camdriniaeth rywiol yn ystod plentyndod. Fe'i sefydlwyd i'w gwneud yn haws i ddioddefwyr a goroeswyr ymgysylltu â ni, holi cwestiynau a chynnig awgrymiadau o ran sut rydym yn gweithio.
Fel cyfranogwr yn y Fforwm, bydd gennych fynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith a chewch eich hysbysu am ddigwyddiadau'r Fforwm a gynhelir yng Nghymru a Lloegr. Mae digwyddiadau'r Fforwm yn cynnig y cyfle i chi drafod a chyfrannu at waith yr Ymchwiliad.
Mae'r Ymchwiliad wedi datblygu ymgyrch hysbysebu ar y teledu i annog dioddefwyr a goroeswyr i gyfrannu i'r Prosiect Gwirionedd. Cymerodd dros 60 o bobl ran, gan gynnwys 25 o aelodau'r Fforwm, mewn ymchwil i ddatblygu'r hysbyseb sydd wedi ein galluogi i sicrhau ei fod yn adlewyrchu meddyliau, barn a phrofiadau dioddefwyr a goroeswyr.
Mae ein hamserlen o ddigwyddiadau'r Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr yn cynnig manylion am y digwyddiadau y gall aelodau'r Fforwm fynd iddynt a chyfranogi ynddynt drwy gydol y flwyddyn. Os byddai diddordeb gennych chi mewn mynd ac os hoffech chi gyfrannu at waith yr Ymchwiliad, cofrestrwch drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr, cofrestrwch drwy glicio ar y botwm isod. Lle bo'n bosib, byddwn yn ceisio cysylltu â chi cyn y digwyddiad i gynnig gwybodaeth ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Byddwn hefyd yn talu costau teithio rhesymol i ddigwyddiad y Fforwm ac oddi yno.
Cofrestru ar gyfer y Fforwm Dioddefwyr a Goroeswyr
Cynhaliodd yr Ymchwiliad bum digwyddiad Cyflwyno'r Fforwm ledled Cymru a Lloegr rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2018. Mae'r ddogfen hon yn cynnig crynodeb o'r themâu a godwyd gan aelodau'r Fforwm yn ystod yr holl ddigwyddiadau.
Ar 18 Chwefror 2019, cynhaliodd yr Ymchwiliad ddigwyddiad wedi'i ffrydio'n fyw yn ymwneud â Dadansoddiad o Ddata'r Prosiect Gwirionedd. Gweler y ddogfen Cwestiynau ac Atebionganlynol a'r pecyn o sleidiau a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad.
Cynhaliodd yr Ymchwiliad ddigwyddiad wedi'i ffrydio'n fyw ar sianel YouTube yr Ymchwiliad Annibynnol ar Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) ar 5 Tachwedd yn ymwneud â Rhaglen Ymchwil yr Ymchwiliad a'r gwersi a ddysgwyd hyd yn hyn. Gweler y ddogfen Cwestiynau ac Atebion ganlynol a'r pecyn o sleidiau a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad.
Digwyddiad Ymchwil Holi ac Ateb wedi'i ffrydio'n fyw
Sleidiau'r Cyflwyniad a ddefnyddiwyd
Yn ddiweddar, cynhalion ni ymgynghoriad ag aelodau'r Fforwm er mwyn ein helpu i lywio cam nesaf gweithgareddau'r Fforwm a sicrhau bod y Fforwm mor effeithiol â phosib. Gweler y papur isod:
2018-04-05 Ymgynghoriad Fforwm V&S - Dadansoddiad o'r canlyniadau
Mae'r Ymchwiliad wedi cyhoeddi crynodeb manwl o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd â dioddefwyr a goroeswyr ar effaith cam-drin plant yn rhywiol a'u profiadau o wasanaethau cymorth. Gweler y crynodeb isod.