Ymchwiliad i ymatebion sefydliadau i gyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol yn ymwneud â'r diweddar Arglwydd Janner o Braunstone Q.C.
Ymysg y sefydliadau y gellir eu hystyried yn ystod yr ymchwiliad hwn mae'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Cyngor Swydd Gaerlŷr, y Blaid Lafur, y Senedd, adrannau llywodraeth a'r gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried a wnaethpwyd unrhyw ymgais i ddefnyddio dylanwad amhriodol er mwyn llesteirio neu atal sefydliad rhag ymchwilio'n effeithiol neu ymateb mewn unrhyw ffordd arall i'r cyhuddiadau.