Mae'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth ym mis Ionawr 2019 i wneud dioddefwyr a goroeswyr yn ymwybodol y gallant siarad â'r Ymchwiliad drwy'r Prosiect Gwirionedd.
Mae'r Prosiect Gwirionedd yn galluogi dioddefwyr a goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod i rannu eu profiadau â'r Ymchwiliad a chynnig argymhellion ar gyfer newid.
Rydym yn awyddus i gydweithio â'n rhanddeiliaid i sicrhau bod holl ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy'r Prosiect Gwirionedd.
Mae'r pecyn cymorth hwn yn darparu gwybodaeth, adnoddau a syniadau i gefnogi'r ymgyrch gwella ymwybyddiaeth a chyfathrebu negeseuon y Prosiect Gwirionedd i'ch rhanddeiliaid, eich partneriaid, eich defnyddwyr gwasaaeth a'ch cydweithwyr chi.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi'r ymgyrch ymwybyddiaeth.
Mae Ein Cwestiwn yn cynnig manylion am sut y gallwch chi gefnogi'r ymgyrch mewn nifer o ffyrdd gwahanol, yn amrywio o rannu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i'n gwahodd i rannu gwybodaeth mewn digwyddiadau byddwch chi'n eu cynnal.
Rydym wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o ddeunyddiau ac adnoddau i'ch galluogi i gefnogi'r ymgyrch ymwybyddiaeth yn weithredol. Mae'r deunyddiau sydd ar gael yn cynnwys posteri, llyfrynnau, y cyfryngau cymdeithasol a chynnwys y wefan a sgriniau tawel.
Rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth i sicrhau bod cynifer o unigolion â phosib yn ymwybodol o'r Prosiect Gwirionedd a'r cyfle i gyfrannu at waith yr Ymchwiliad a chynnig argymhellion at y dyfodol.
Hoffem ni wybod sut rydych chi'n cefnogi'r ymgyrch. Rhowch wybod i ni drwy ein e-bostio yn engagement@iicsa.org.uk.