Mae gweithio gyda ni yn golygu cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran cefnogi dioddefwyr a goroeswyr i rannu eu profiad o gam-drin rhywiol. Rydym yn ceisio denu'r recriwtiaid newydd mwyaf disglair i ymuno â'n Hymchwiliad. Rydym yn cyflogi staff mewn ystod eang o swyddi o Ymchwilwyr i arbenigwyr Cyfathrebu yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr, Canolbarth Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr, De-orllewin Lloegr a Chymru.
Hysbysebir yr holl gyfleoedd cyswllt ar ein gwefan. Fel arfer mae staff cyswllt IICSA yn cael eu recriwtio ar gyfer eu sgiliau ac/neu wybodaeth arbenigol, weithiau prin, ac yna'n cael eu hychwanegu at y gofrestr gyswllt. Yn ôl yr angen, gwahoddir staff cyswllt i ymuno â'r Ymchwiliad ar sail contract, i weithio ar brosiectau penodol. Mae'r contractau hyn yn aml yn rhai tymor byr, yn amrywio o ychydig ddyddiau i nifer o fisoedd. Mae staff cyswllt yn mynd trwy broses recriwtio deg ac agored. Wedyn bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwiriadau cyn cyflogi, sy'n cynnwys cymryd tystlythyrau, a gwiriadau diogelwch, iechyd a hunaniaeth.
Rydym yn defnyddio gwefan Swyddi'r Gwasanaeth Sifil i hysbysebu mwyafrif ein swyddi. Er mwyn gwneud cais am y rhain bydd angen i chi greu cyfrif gyda'r wefan. Os hoffech gael e-bost â rhybudd am rai mathau o rolau o fewn yr Ymchwiliad, gallwch sefydlu rhybuddion swyddi trwy wefan Swyddi'r Gwasanaeth Sifil.
Yn sail i brosesau recriwtio'r Ymchwiliad mae Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil o ddewis i'w penodi i'w wneud ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Mae Polisi Adborth a Chwynion IICSA yn berthnasol os oes gennych gŵyn ynghylch;
Rydym yn cydnabod y bydd pobl yn siomedig os na fydd cais am swydd yn llwyddiannus, ond fel rheol ni fyddwn yn ystyried y ffaith bod ymgeisydd yn anghytuno â chanlyniad yr ymgyrch recriwtio fel sail dros ystyried cwyn, oni bai y gellir dangos nad ydym wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Egwyddorion. Yn y lle cyntaf, dylid codi pryderon gyda'r tîm Adnoddau Dynol cyn gynted â phosibl. Gallwch gysylltu ag Adnoddau Dynol dros y ffôn: 029 2167 4020, neu drwy e-bost: hr@iicsa.org.uk