Fel rhan o'r rhaglen waith Ymchwil a Dadansoddi, byddwn yn cynnal cyfres o seminarau.
Diben y gyfres seminarau yw casglu gwybodaeth a barn am bynciau pwysig, i helpu'r Ymchwiliad i nodi meysydd ar gyfer ymchwilio a chraffu. Byddant yn gwneud hyn drwy
Bydd bob seminar yn cynnwys trafodaeth wedi'i strwythuro rhwng y cyfranogwyr a wahoddir, dan arweiniad aelod o dîm Cwnsler yr Ymchwiliad.
Byddwn yn anfon gwahoddiadau at randdeiliaid perthnasol a grwpiau dioddefwyr a goroeswyr fel y gallant gyfranogi'n weithredol yn y drafodaeth a strwythuredig. Gall y drafodaeth strwythuredig ddilyn cyflwyniad o waith ymchwil a wnaed ar gyfer yr Ymchwiliad, neu 'gyflwyniad arbenigol'.
Pan fydd pob seminar wedi'i gynnal, byddwn yn cyhoeddi transgriptiau a recordiad fideo o'r digwyddiad yn ogystal ag adroddiad am yr hyn a ddigwyddodd ar y wefan.
Caiff y seminarau hyn eu darlledu'n fyw ar-lein. Gall aelodau o'r cyhoedd hefyd fynd yn bersonol i arsylwi'r cyfarfod - mae lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.