Mae gan yr Ymchwiliad swyddogaeth ymchwil benodol, a sefydlwyd i gael goleuni pellach am gam-drin plant yn rhywiol.
Beth rydym yn ei wneud
Mae'r tîm ymchwil yn cynnal ystod o weithgareddau er mwyn darparu ymchwil o ansawdd uchel sy'n cefnogi gwaith yr Ymchwiliad. Mae hyn yn cynnwys ymchwil eilaidd lle rydym yn dwyn ynghyd ymchwil presennol ar bwnc penodol, yn ogystal ag ymchwil sylfaenol ansoddol a meintiol lle rydym yn casglu ein data ein hunain, er enghraifft, trwy gynnal cyfweliadau neu arolygon. Rhan bwysig arall o waith y tîm ymchwil yw dadansoddi'r wybodaeth a gasglwn fel rhan o'r Prosiect Gwirionedd.
Mae'r tîm ymchwil yn cynnwys ymchwilwyr cymdeithasol ac ystadegwyr sydd wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau yn y gorffennol, gan gynnwys adrannau'r llywodraeth, sefydliadau ymchwil marchnata, academia a sefydliadau'r trydydd sector.
Mae Côd Moeseg Ymchwil yr Ymchwiliad yn pennu'r safonau moesegol sy'n ofynnol a'r prosesau i'w dilyn wrth ymgymryd ag ymchwil ar ran yr Ymchwiliad neu fel rhan ohono.
Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ymchwiliad yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ymchwil a wneir ar ran neu gan yr Ymchwiliad yn cydymffurfio â'r safonau moesegol a nodir yng Nghod Moeseg Ymchwil yr Ymchwiliad. Mae'r pwyllgor wedi'i ffurfio o academyddion ac arbenigwyr allanol yn ogystal â staff mewnol perthnasol.
Mae pob prosiect ymchwil yn cael ei gymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ymchwiliad cyn cychwyn