Mae'r Ymchwiliad yn cynnig cyfle digynsail i archwilio i ba raddau y mae sefydliadau yng Nghymru a Lloegr wedi cymryd eu cyfrifoldeb i amddiffyn plant o ddifri.
Bydd yr Ymchwiliad yn edrych ar ystod eang o sefydliadau yn cynnwys:
Bydd hefyd yn archwilio cyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol yn ymwneud â phobl adnabyddus, gan gynnwys pobl yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth ac agweddau eraill o fywyd cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn y gofynnwyd i ni ymchwilio iddo yn eich Cylch Gorchwyl. Maent yn esbonio cwmpas ein gwaith a'r egwyddorion y mae'n rhaid i ni eu dilyn.
Er ein bod yn ymchwilio i fethiannau sefydliadol, yn hytrach nag achosion unigol o gam-drin rhywiol, mae profiadau dioddefwyr a goroeswyr yn ganolog i'n tasg. Ni allwn ddechrau deall patrymau'r methiannau sefydliadol heb glywed gan y rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i'r methiannau hyn. Rydym yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr sydd eisiau cynorthwyo'r Ymchwiliad yn ei waith trwy rannu eu profiad o gam-drin rhywiol. Darllenwch fwy am sut ydyn ni'n gweithio a rhannu eich profiad.
Mae'r Ymchwiliad yn ymchwiliad statudol annibynnol ac yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Golyga annibynnol nad yw'r Ymchwiliad yn rhan o lywodraeth ac nid yw'n cael ei redeg gan adran o'r llywodraeth. Golyga statudol fod yr Ymchwiliad wedi ei sefydlu dan y Ddeddf Ymchwiliadau 2005 ac mae ganddo'r pŵer i gymell tystion i roi tystiolaeth.