Yn ei datganiad agoriadol, gwnaeth cyn Gadeirydd yr Ymchwiliad ymroddiad y byddai'r Ymchwiliad yn cyhoeddi cyfres o bapurau materion ar bynciau cyfredol a thrafodaethau yn ymwneud â nodi ac atal cam-drin plant yn rhywiol.
Nod papurau materion yr Ymchwiliad yw rhoi cyfle i unigolion a sefydliadau roi eu barn ar bynciau penodol.
Derbynnir ymatebion ar ffurf ysgrifenedig neu sain ac fe'u gelwir yn gyflwyniadau.
Bydd yr Ymchwiliad fel arfer yn rhoi wyth wythnos i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb i wneud eu cyflwyniad. Mae'r dyddiadau cau wedi eu nodi isod ac ym mhob papur materion unigol.
Cysylltwch â’r Ymchwiliad os ydych angen yr wybodaeth hon ar unrhyw fformat arall, megis Braille, print bras neu iaith arall. Gall yr Ymchwiliad dderbyn ffeiliau MP3 pe hoffech wneud cyflwyniad sain. Anfonwch eich ffeil sain at y cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig i'r papur materion yr ydych yn ymateb iddo.
Cynhaliodd yr Ymchwiliad ddau ddiwrnod o seminarau yn Nhachwedd 2016, parthed yr ymchwiliad Atebolrwydd ac Iawndal, yn dilyn y papur materion System Cyfiawnder Troseddol. Mae trawsgrifiadau ar gael ar gyfer diwrnod un a diwrnod dau'r seminarau.
Cynhaliodd yr Ymchwiliadau seminarau yn Chwefror 2017 hefyd, yn dilyn y papur materion Iawndal Troseddol. Mae trawsgrifiad ar gael.
Dim papurau materion ar agor ar hyn o bryd.