Skip to main content

IICSA published its final Report in October 2022. This website was last updated in January 2023.

Cylch Gorchwyl

Mae'r Cylch Gorchwyl yn disgrifio diben a chwmpas yr Ymchwiliad.

Pwrpas

1. I ystyried i ba raddau mae sefydliadau'r Wladwriaeth ac Anwladwriaethol wedi methu yn eu dyletswydd gofal i amddiffyn plant rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol; i ystyried i ba raddau y deliwyd â'r methiannau ers hynny; i nodi camau pellach gofynnol i ddelio ag unrhyw fethiannau a nodwyd; i ystyried pa gamau sy'n angenrheidiol i sefydliadau'r Wladwriaeth ac Anwladwriaethol gymryd er mwyn amddiffyn plant rhag cam-drin yn y dyfodol; ac i gyhoeddi adroddiad gydag argymhellion.

2. Wrth wneud hynny, byddwn yn:

  • Ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael o'r amrywiol adolygiadau wedi eu cyhoeddi a heb eu cyhoeddi, achosion llys, ac ymchwiliadau sydd wedi eu cwblhau hyd yma;
  • Ystyried profiad goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol; darparu cyfleoedd iddynt fod yn dystion i'r Ymchwiliad, gan ystyried yr angen i ddarparu cefnogaeth briodol iddynt wneud hynny;
  • Ystyried os yw sefydliadau'r Wladwriaeth ac Anwladwriaethol wedi methu nodi cam-drin o'r fath ac/neu os oedd ymateb sefydliadol amhriodol i gyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol ac/neu a oedd gweithdrefnau amddiffyn plant aneffeithiol ar waith;
  • Cynghori ar gamau pellach gofynnol i daclo unrhyw fylchau amddiffyn sefydliadol yn y systemau amddiffyn plant cyfredol ar sail y casgliadau a gwersi a ddysgwyd o'r ymchwiliad hwn;
  • Datgelu, ble fo'n briodol ac yn unol â phrotocolau diogelu data, unrhyw ddogfennau a ystyriwyd yn rhan o'r ymchwiliad;
  • Ymgysylltu gydag ymchwiliadau parhaus, yn cynnwys y rhai sy'n cael eu cyflawni yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, gyda'r bwriad o (a) sicrhau y rhennir gwybodaeth berthnasol, a (b) nodi unrhyw sefydliadau Gwladwriaethol neu Anwladwriaethol gyda rhwymedigaethau amddiffyn plant sydd ar hyn o bryd y tu allan i gwmpas yr Ymchwiliad presennol a'r rhai sy'n cael eu cyflawni mewn awdurdodaethau datganoledig;
  • Cynhyrchu adroddiadau rheolaidd, ac adroddiad dros dro erbyn diwedd 2018; a
  • Chyflawni gwaith yr Ymchwiliad mewn modd mor dryloyw â phosibl, yn gyson gydag ymchwiliad effeithiol i faterion o fewn y cylch gorchwyl, a gan ystyried yr holl ddyletswyddau cyfrinachedd perthnasol.

Cwmpas

  1. Sefydliadau Gwladwriaethol ac Anwladwriaethol. Bydd sefydliadau o'r fath yn cynnwys, er enghraifft:
    • Adrannau llywodraeth, Swyddfa'r Cabinet, Senedd a Gweinidogion;
    • Yr Heddlu, awdurdodau erlyn, ysgolion yn cynnwys ysgolion preswyl a dydd preifat ac a ariennir gan y wladwriaeth, addysg arbenigol (megis hyfforddiant cerddoriaeth), Awdurdodau Lleol (yn cynnwys cartrefi gofal a gwasanaethau plant), gwasanaethau iechyd, a charchardai/ystadau diogel;
    • Eglwysi ac enwebiadau a sefydliadau crefyddol eraill; Pleidiau Gwleidyddol; ac
    • Y Lluoedd Arfog.
  2. Bydd yr Ymchwiliad yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Os bydd yr Ymchwiliad yn nodi unrhyw ddeunydd yn ymwneud â gweinyddiaethau datganoledig, bydd yn cael ei basio i'r awdurdodau perthnasol;
  3. Ni fydd yr Ymchwiliad yn delio â chyhuddiadau parthed digwyddiadau yn y Tiriogaethau Tramor na Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron. Fodd bynnag, bydd unrhyw gyhuddiadau o'r fath a dderbynnir gan yr Ymchwiliad yn cael eu cyfeirio at y cyrff gorfodi'r gyfraith perthnasol yn yr awdurdodaethau hynny;
  4. I ddibenion yr Ymchwiliad hwn, mae “plentyn” yn golygu unrhyw un dan 18 oed. Fodd bynnag, bydd y panel yn ystyried achosion o gam-drin unigolion dros 18 oed, os dechreuodd y cam-drin tra bod yr unigolyn dan oed.

Egwyddorion

  1. Bydd gan yr Ymchwiliad fynediad llawn at yr holl ddeunyddiau mae eu hangen.
  2. Bydd unrhyw gyhuddiad o gam-drin a dderbynnir gan yr Ymchwiliad yn cael ei gyfeirio at yr Heddlu;
  3. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a sensitif yn cael ei hamddiffyn yn briodol; ac ar gael i'r rhai sydd angen ei gweld yn unig; ac
  4. Nid yw'n rhan o swyddogaeth yr Ymchwiliad i bennu atebolrwydd sifil neu droseddol unigolion neu sefydliadau a enwir. Fodd bynnag, ni ddylai hyn atal yr Ymchwiliad rhag dod i gasgliadau o ffaith sy'n berthnasol i'w gylch gorchwyl.
Back to top