Skip to main content

IICSA published its final Report in October 2022. This website was last updated in January 2023.

Yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol - Gwybodaeth Allweddol

Ymchwiliadau

Mae ein rhaglen o wrandawiadau cyhoeddus bellach wedi'i chwblhau. Mae pob un o'n 15 ymchwiliad yn gorffen ag adroddiad yn nodi casgliadau'r Ymchwiliad ar fethiannau sefydliadol ac yn nodi argymhellion ymarferol ar gyfer newid.

Rydym wedi cyhoeddi 19 adroddiad ymchwiliad (yn Saesneg).

Clywyd tystiolaeth gan neu ar ran sefydliadau, cyrff ac unigolion Cymru trwy gydol holl wrandawiadau ein hymchwiliadau, gan gynnwys:

Canfyddwch ragor am ein harchwiliadau - gan gynnwys cwmpas, tystiolaeth a thrawsgrifiadau gwrandawiadau. (Mae recordiadau fideo o bob sesiwn gwrandawiad agored ar gael o dan y tab ‘gwrandawiadau’ ym mhob tudalen archwilio. Maen nhw hefyd ar gael trwy ein Sianel YouTube)

Argymhellion

Mae ein Cadeirydd a'n Panel yn gwneud argymhellion a gyhoeddir fel rhan o'r casgliadau ym mhob un o adroddiadau archwilio ein Hymchwiliad. Mae'r Ymchwiliad yn monitro ymatebion sefydliadol i'r argymhellion hyn trwy broses  ffurfiol (yn Saesneg).

Isod, rydym wedi darparu manylion yr argymhellion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru:

Adroddiad Dros Dro

  • Argymhelliad 11 (Polisi hebrwng cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd: Cymru) - ar 6 Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd mewn perthynas ag arfer gwaith da ar gyfer defnyddio hebryngwyr yn ystod archwiliadau neu weithdrefnau personol o fewn GIG Cymru.
  • Argymhelliad 18 (Gwariant cyhoeddus ar wasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr yng Nghymru) - ar 10 Rhagfyr 2018, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru i hysbysu'r Ymchwiliad bod yr argymhelliad wedi'i dderbyn yn llawn.

Yr Eglwys Anglicanaidd

  • Argymhelliad 3 (Yn dilyn cyngor diogelu gweithredol yn yr Eglwys yng Nghymru) - ar 6 Ebrill 2021, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ei hymateb.
  • Argymhelliad 4 (Cadw Cofnodion yn yr Eglwys yng Nghymru) - ar 6 Ebrill 2021, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ei hymateb.
  • Argymhelliad 5 (Rhannu gwybodaeth rhwng Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru) - ar 6 Ebrill 2021, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ei hymateb.
  • Argymhelliad 6 (Rhannu gwybodaeth rhwng Eglwys Loegr, yr Eglwys yng Nghymru a phartneriaid statudol) - ar 6 Ebrill 2021, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ei hymateb.
  • Argymhelliad 7 (Cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr) - ar 6 Ebrill 2021, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ei hymateb.
  • Argymhelliad 8 (Archwilio allanol o bolisïau a gweithdrefnau diogelu yn yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr) - ar 6 Ebrill 2021, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ei hymateb.

Gwrandawiadau cyhoeddus

Mae'r gwrandawiadau cyhoeddus i'n 15 archwiliad bellach wedi dod i ben. Clywodd yr Ymchwiliad dystiolaeth gan 648 o dystion yn bersonol. O'r rheini, fe wnaeth 94 o dystion roi tystiolaeth fel dioddefwyr a goroeswyr. Cynhaliodd 323 diwrnod o wrandawiadau cyhoeddus. Yn ystod y gwrandawiadau, datgelwyd 24,565 o ddogfennau â chyfanswm o dros 590,000 o dudalennau.

  • 323 diwrnod

    o wrandawiadau wedi'u cwblhau

  • 648 tyst

    gan gynnwys 94 o ddioddefwyr a goroeswyr

  • 24,565 Datgelwyd o ddogfennau

    yn cynnwys 590,000 o dudalennau unigol o dystiolaeth



Adroddiad Dros Dro

Yn 2018, fe wnaeth yr Ymchwiliad ryddhau ei Adroddiad Dros Dro, a oedd yn cynnwys argymhellion i'r Senedd.

Adroddiad Terfynol

Ar 20 Hydref 2022, cyhoeddodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ei adroddiad statudol terfynol.

Dolenni defnyddiol

  • Ein Cylch Gorchwyl - sy'n nodi pwrpas a chwmpas yr Ymchwiliad

  • Cyhoeddiadau (yn Saesneg) - pob un o gyhoeddiadau ein Hymchwiliad mewn un lle

  • Ystadegau Chwarterol (yn Saesneg) - gan ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiectau craidd - y Prosiect Gwirionedd, ymchwiliadau a gwrandawiadau cyhoeddus, ac ymchwil

  • Ffrwd Newyddion IICSA (yn Saesneg) 

  • Canolfan y Cyfryngau (yn Saesneg) - pecynnau cyfryngau o'n gwrandawiadau cyhoeddus, cyflwynir sesiynau yn Iaith Arwyddion Prydain ac yn bennaf gan bobl Fyddar

Back to top